P-04-323 Achubwch ein hysgolion bach

Geiriad y ddeiseb

Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru gefnogi ysgolion bach ac yn benodol i gefnogi cynghorau er mwyn iddynt gadw ysgolion bach ar agor. Rydym yn credu bod ysgolion bach yn galon cymunedau gwledig, yn hanfodol i helpu’r iaith Gymraeg i oroesi ac, uwchlaw bob dim, yn ganolfannau o ragoriaeth academaidd i’n plant. Rydym yn gofyn bod y Cynulliad yn ailystyried sut mae’n defnyddio meini prawf y Comisiwn Archwilio i ddynodi ysgolion fel rhai bach, a’r ffordd mae’n dewis ariannu adeiladau newydd yn hytrach nag adnewyddu hen adeiladau.

Cefndir

Cynigwyd y ddeiseb hon gan Leila Kiersch, a chasglwyd 244 o lofnodion. Mae gwybodaeth ategol a ddarparwyd gan y deisebydd wedi’i chynnwys isod.